Enghraifft o'r canlynol | llwyth |
---|---|
Math | Y Galiaid |
Lleoliad | Gergovia |
Gwladwriaeth | Gâl |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Roedd yr Arverni yn llwyth Celtaidd yng Ngâl, yn byw yn yr ardal sy'n awr o amgylch Lyon yn Ffrainc. Rhoesant eu henw i région Auvergne.
Roedd yr Arveni yn o lwythau cryfaf Gâl. Eu prif gaer oedd Gergovia, rywle ger Clermont-Ferrand heddiw. Yn y drydedd a'r 2g CC. hwy oedd llwyth cryfaf Gâl, yn enwedig yn ystod teyrnasiad eu brenin, Luernius, ond pan orchfygwyd ei fab Bituitus gan y Rhufeiniaid yn 123CC cymerwyd eu lle gan yr Aedui a'r Sequani.
Pan wrthryfelodd nifer o lwythau Gâl yn erbyn y Rhufeiniaid yn ystod ymgyrchoedd Iŵl Cesar, un o uchelwyr llwyth yr Arverni, Vercingetorix, a ddewiswyd yn arweinydd. Cafodd beth llwyddiant, yn enwedig pan rwystrwyd ymgais y Rhufeiniaid i gipio Gergovia, ond gorchfygwyd ef ym Mrwydr Alesia a'i ddienyddio bum mlynedd yn ddiweddarach.